Doedd gan Gilfynydd fawr o ddewis o ran lleoliadau i rieni newydd gwrdd â’i gilydd. Mae’n gymuned ynysig, sy’n gallu peri fod sawl teulu’n teimlo’n unig ac wedi’u gwahanu o gymdeithas. Roedd Little Lounge Pontypridd wedi cydweithio gydag Interlink RCT dros sawl blwyddyn i ddatblygu caffi a lle chwarae penodedig yng Nghanolfan Gymunedol Cilfynydd, fel rhan o drosglwyddo asedau cymunedol. Wedyn, fe ddaeth y pandemig. Bu’n rhaid i Little Lounge wynebu’r her o gynnal ei ymdeimlad o ‘agosatrwydd’ er bod yn rhaid aros ar wahân yn gorfforol.
Anfonodd y tîm gwirfoddolwyr 45 o becynnau gofal i bob teulu sy’n mynychu’r grŵp babis yn fuan cyn i’r cyfnod clo ddechrau. Roedd yn fodd diriaethol o atgoffa rhieni eu bod nhw ddim ar ben eu hunain. Roedd y pecynnau’n cynnwys syniadau am weithgareddau ac adnoddau, cannwyll bersawrus, a phlac pren yn dweud ‘Mama, you got this’ (neu Dad yn dibynnu ar bwy oedd yn dod i’r grŵp). Yn ogystal, fe wnaethon nhw barhau i gynnal y grŵp drwy gyfrwng Facebook Live bob bore dydd Iau. Yn ystod amser cylch, roedden nhw’n canu ‘Helo’ i bob babi oedd yn mwynhau clywed ei enw.
Fe wnaeth Little Lounge helpu i gadw’r gymuned ehangach ynghyd hefyd. Fe wnaeth Katie Hadley o’r sefydliad gydlynu’r Tîm Gwirfoddolwyr COVID-19 lleol, a chasglu pecynnau ynghyd ar gyfer preswylwyr bregus. Roedd cael defnyddio’r ganolfan gymunedol yn golygu fod Little Lounge y gallu gofyn am roddion ar gyfer y pecynnau gofal cyn i’r cloi ddechrau, ac roedd yn golygu eu bod wedi gallu achub y blaen ar adnabod 28 preswylydd oedrannus. Fe wnaethon nhw roi pecynnau gofal iddyn nhw, ynghyd â gwybodaeth ynglŷn ag aros yn iach, gyda manylion cyswllt i ofyn am gymorth.
Fe wnaeth gwirfoddolwyr COVID-19 Little Lounge jyglo gweithio o gartref a bod yn rhieni er mwyn helpu gyda siopa a gwneud negeseuon ar gyfer preswylwyr bregus. Llamodd eu tîm effeithiol i’r adwy ar fyr rybudd, a heb ddim profiad blaenorol. Mae hyn wedi bod yn hanfodol am fod rhai preswylwyr oedrannus yn methu â defnyddio siopa ar lein, ac ni fyddai modd iddyn nhw gasglu presgripsiwn fel arall.
Yn enwedig, helpodd Interlink RCT i argraffu crysau-T y gwirfoddolwyr, a darparu cyllid ar eu cyfer. Fe wnaethon nhw osod strwythur ar Dîm Gwirfoddoli Covid-19 Little Lounge, gyda chytundeb gwirfoddoli a thrwy helpu gyda gwiriadau DBS. Ar ôl dysgu am gyllid drwy gyfrwng Interlink RCT, nod y grŵp yw gwneud 100 o becynnau gweithgareddau crefft er mwyn creu ‘poteli ymdawelu’ i’w hysbysebu ar dudalen Facebook y pentref.
Trowch gynlluniau eich grŵp yn rhywbeth go iawn
Os hoffech beri i ymdrechion eich grŵp fynd yn bellach, cysylltwch â’n Tîm Cyngor Cymunedol. Gallan nhw ddweud wrthych chi beth sydd angen i chi ei wneud a sut i fynd o’i chwmpas, er mwyn i chi allu cefnogi rhagor o bobl yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Tîm CAT:
T: 01443 846200.
E: info@interlinkrct.org.uk.