Cyfeiriwyd Mrs P at gydlynydd cymunedol gan therapydd galwedigaethol yn y cyngor, i ddelio â’i hynysrwydd. Dros gyfweliad ffôn maith, daeth yn amlwg fod gan Mrs P draed chwyddedig iawn, oedd yn golygu nad oedd Mrs P ond yn gallu gwisgo sliperi neu fynd yn droednoeth. Byddai hyn yn ei hatal rhag ymweld â grwpiau yn y gymuned. Er enghraifft, i ymdrin â’i lymphoedema ac arthritis roedd hi’n dymuno ymweld â Chlwb Coesau Lyndsey, ond allai hi ddim. Roedd Mrs P wedi archebu esgidiau llydan iawn ar lein o’r blaen, ond bellach doedd dim byd yn addas. Nododd fod cymydog yn gorfod casglu’i siopa ar ei rhan, oherwydd y tro diwethaf iddi adael y tŷ, roedd ei sliperi’n wlyb domen oherwydd glaw trwm.
Cyfeiriodd y cydlynydd Mrs P at brosiect ‘camau cadarnhaol’ y Groes Goch Brydeinig. Hefyd, esboniodd y cydlynydd y sefyllfa i’r Groes Goch Brydeinig, a chysylltodd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn ogystal â’r clinig podiatreg. Darparodd y clinig enwau siopau symudedd ar lein a lleol addas oedd yn arbenigo yn yr esgidiau cywir. Bwriad y Tîm Camau Cadarnhaol oedd mynd â hi i fesur ei thraed a phrynu esgidiau.
Pan ffoniodd y cydlynydd Mrs P i gael diweddariad, dechreuodd hi lefain a dweud,
“Alla i ddim credu bo chi wedi mynd i drafferth i ffeindio rhywun i helpu fi i brynu esgidiau.”
Esboniodd y cydlynydd mai’r rhwystrau a welir yn feunyddiol yw trafnidiaeth, diffyg symudedd neu iechyd meddwl. Os nad oes gan rywun esgidiau i gymryd rhan mewn grŵp, byddai cydlynwyr yn ceisio’u gorau glas i ddatrys y broblem, a thrwy gyfrwng y cynllun a weithredwyd gyda Camau Cadarnhaol, cafodd Mrs P ei bywiogi drwyddi.
Cyswllt â chydlynydd cymunedol er mwyn cael cefnogaeth
Mae ein tîm cydylynwyr cymunedol yn gweithio ledled RhCT. Os eich bod chi’n dros pum deg oed, gofynnwch nhw am beth y gallen nhw gwneud ar gyfer eich lles trwy’r manylion cyswllt isod.
Taf-Elái: Karen Powell
E-bost: kpowell@interlinkrct.org.uk
Ffôn symudol: 07580 869970
Rhondda: Lucy Foster
E-bost: lfoster@interlinkrct.org.uk
Ffôn symudol: 07580 865938
Cynon: Deanne Rebane
E-bost: deanne.rebane@vamt.net
Ffôn symudol: 07580 869983
Merthyr Tydful: Claire Williams
E-bost: claire.williams@vamt.net
Ffôn symudol: 07580 866547
Credyd llun: Trwyddedir “Slippers” gan sk8geek gyda CC BY-SA 2.0. I weld copi o’r drwydded hon, ymweld â’r gwefan Creative Commons.