Cysylltodd ysgrifennydd Clwb Tenis Lawnt y Rhondda ag Interlink RCT i drafod anghenion eu hadeilad clwb. Roedd angen moderneiddio’r adeilad clwb, yn ogystal â gwella sawl arwynebedd chwarae a thrwsio’r llifoleuadau. Roedd angen cadarnhau’r cytundeb les gyda’r cyngor ar gyfer y cyrtiau yn ogystal. Hefyd, roedden nhw eisiau cyflogi hyfforddwr i ymweld ag ysgolion lleol i annog plant i chwarae tenis lawnt ac adeiladu wal ymarfer ar eu cyfer.
Adnabu’r aelod tîm cyngor cymunedol a gysylltodd â nhw ddau ofyniad allweddol, sef eu hymgorffori, a datblygu’u cynllun busnes. Byddai ymgorffori’n gwarchod pwyllgor y clwb uwchlaw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, ac o’i gael, byddai ganddynt well cyfle o gael gafael ar y math o gyllid oedd angen ar eu prosiectau. Cyfeiriodd y cydlynydd y clwb at Ymddiriedolaeth Cranfield ar gyfer derbyn cymorth gyda chynllunio’r busnes.
Hefyd, daeth y clwb yn aelod o Interlink RCT. Yn sgil hynny, bydden nhw’n derbyn gwahoddiadau, gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth reolaidd i helpu’u sefydliad i gryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector wirfoddol, ac ar yr un pryd wneud cynnydd ar gyflawni’u nodau. Ymunon nhw â’n rhwydwaith e-bost ‘Cefnogi Pobl yng Nghymoedd Rhondda a Chynon’. Roedd hynny’n eu galluogi i hysbysebu gerbron grwpiau lleol eraill, cysylltu â nhw a’u cefnogi.
Meddai John Denton, Trysorydd Clwb Tenis Lawnt y Rhondda:
“Heb help Meriel, mae’n debygol y bydden ni wedi methu â chyflawni statws Sefydliad Corfforedig Elusennol. Roedd ei gwybodaeth drylwyr o’r gofynion, arweiniad o ran ble i chwilio am wybodaeth a chyngor, ynghyd â’i hesboniad o’r broses ymgeisio’n hanfodol i’n cais llwyddiannus.”
Mae Cronfa Fferm Wynt Pen-y-Cymoedd wedi darparu £3,850 o gyllid i wella’r llifoleuadau, a chafwyd £10k drwy gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru.
Rhowch gynlluniau eich sefydliad ar waith
Cysylltwch â’n Tîm Cynghori Cymunedol i gael cymorth gyda phrosiectau eich sefydliad. Gallech ddod o hyd i gyllid, cael hyfforddiant a derbyn cyngor ar redeg eich sefydliad yn fwy effeithiol.
Cysylltu
T: 01443 846200.
E: info@interlinkrct.org.uk