Gwelodd Mr X gydlynydd llesiant Taf Elai yn ei Swyddfa Byd Gwaith lleol. Roedd wedi cael ei gyfeirio’n wreiddiol am ei fod yn gofalu am ei wraig oedd yn dioddef o broblemau iechyd lluosog. Teimlai staff y Ganolfan Byd Gwaith fod Mr X wedi’i ynysu, ac y gallai elwa o gael cefnogaeth gyda’i iechyd meddwl.
Yn ystod yr ymgynghoriad, datgelodd Mr X ei fod wedi dioddef cam-drin rhywiol pan oedd yn blentyn. Dim ond wrth ddau o bobl yr oedd wedi dweud unrhyw beth am hyn o’r blaen, a’i wraig oedd y llall. Hefyd, roedd wedi cael sawl profedigaeth deuluol dros y pum mlynedd ddiwethaf, a theimlai nad oedd wedi galaru’n iawn, oedd yn pwyso arno. Roedd eisiau dod o hyd i gefnogaeth leol a grwpiau cymdeithasol i helpu â hyn.
Cyfeiriodd y cydlynydd llesiant Mr C at Ofal Canser Rowan Tree yn Aberpennar, sy’n cynnig 12 wythnos o gwnsela profedigaeth am ddim. Doedd Mr X erioed wedi gallu cael cwnsela am ddim o’r blaen, ac roedd yn hynod awyddus i roi cynnig arno. Hefyd, cyfeiriodd y cydlynydd Mr X at Brosiect Cefnogi Gofalwyr RCT, sy’n golygu ei fod yn gallu mynd at grwpiau cefnogi lleol a mynd ar dripiau pryd bynnag y mae’n teimlo fod angen seibiant arno o’i gyfrifoldebau gofalu. Yn olaf, cyfeiriodd y cydlynydd Mr X a’i wraig at grwpiau cefnogi lleol a llinellau cymorth ar gyfer pobl sy’n colli’u golwg. Roedd hyn am fod Mrs X yn graddol golli’i golwg, ac roedd y ddau’n cael trafferth â’r newid hwn.
Ddeufis ar ôl gweld y cydlynydd llesiant am y tro cyntaf, cafwyd adborth gan Mr X:
“Dwi am i chi wybod mor bwysig ydych chi o ran sut rwy’n teimlo nawr… Teimlaf fy mod wedi galaru nawr ac mae gen i afael lawer gwell ar fy nheimladau. Gallaf feddwl am fy mrawd gan wenu nawr. Allwn i ddim bod mewn dwylo gwell yr eiliad y des i mewn i’ch swyddfa. Mae wedi adfer fy ffydd mewn pobl, ac rwy wedi bod yn dweud wrth bawb am y gwasanaeth.”
“Mae fy agwedd at fywyd yn wahanol nawr, dwi ar frig y twll yn hytrach nag ar y gwaelod. Byddaf yn fythol ddiolchgar, ac os oes un person yn fy mywyd y byddaf yn cofio amdano sydd wedi fy helpu, chi fydd hwnnw.”
Cyswllt â Chydgysylltydd Lles am gefnogaeth
Mae ein tîm o gydgysylltwyr lles yn gweithio ledled RhCT. Os oes angen arnoch am gefnogaeth anfeddygol ynghylch her gymdeithasol, emosiynol, neu ymarferol, cysylltwch â’r Tîm Lles.
Credyd llun: “Nude Man and Grief” by x1klima sydd trwyddedig â CC BY-ND 2.0. Er mwyn gweld fersiwn arall o’r drwydded hon, ymweld â https://creativecommons.org/licenses/by-nd/2.0/