Amdanom Ni
Interlink yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Rhondda Cynon Taf, ond beth mae hynny'n ei olygu?
Rydym yn gorff a sefydlwyd i gefnogiâ'r sector gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf. Mae gennym tua 400 o aelodau, tua 20 o staff a phwyllgor gwirfoddol.
Cawsom ein 10fed pen-blwydd yn 2008 ac mae ein gwaith wedi tyfu o helpu grwpiau lleol a gwirfoddolwyr i gynnwys mentrau cymdeithasol, gwella gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gael llais.
Cynhwysir y gwaith hwn i gyd dan faner Interlink o â gweithredu gwirfoddolâ ac rydym yn rhan or Sector Gwirfoddol.
Mae'r heriau sydd angen i ni helpur Sector Gwirfoddol i ymateb iddynt yn cynnwys:
Cydweithio i wneud gwahaniaeth, mae angen i bartneriaid gydweithio i fynd i'r afael materion lleol.
Cymunedau Egniol - mae angen i'r Sector ymateb yn gyflym i fwy o alw ar wasanaethau fel canlyniad i'r wasgfa ar gredyd a chefnogi pobl sydd fwyaf mewn risg i fod yn egniol a chymryd rhan yn yr hyn sy'n digwydd yn eu cymuned.
Cymunedau yn Gyntaf mae angen i ni wneud yn glir sut ydym yn cysylltu ac yn cefnogi Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.
Menter Gymdeithasol - mae angen i ni weithio i edrych sut y medrwn helpu ein cymunedau yn y tymor hir, ac mae angen i ni ddatblygu busnesau ac asedau lleol drwy fentrau cymdeithasol a chymunedol.
Contractau nid Grantiau mae symud ymaith o grantiau yn dod heriau newydd yn hytrach rhoi gwasanaeth dibynadwy ansawdd uchel a dangos canlyniadau clir.
Cynnwys Pobl gall y Sector fod arweiniol wrth helpu i gynnwys pobl wrth wneud gwasanaethau yn well.
Gweledigaeth, Cenhadaeth, Egwyddorion a Nodau
GWELEDIGAETH
Datblygu Sector Gwirfoddol egniol yn Rhondda Cynon Taf.
CENHADAETH
Galluogi pobl i gyflawni eu huchelgais drwy weithredu gwirfoddol.
Egwyddorion Interlink
- Anelu i gefnogi'r Sector Gwirfoddol gan roi ystyriaeth i anghenion grwpiau llai.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal, gan anelu i gyrraedd yr unigolion a'r grwpiau hynny sydd fwyaf mewn angen.
- Cefnogi gweithredu gwirfoddol, gan anelu i hyrwyddo a hwyluso ymgyfraniad defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a dinasyddion.
- Bod yn hyblyg ac ymatebol i anghenion newidiol y Sector Gwirfoddol.
- Cefnogi a datblygu gweithio partneriaeth ar bob lefel i ddynodi, trin a darparu camau gweithredu sy'n diwallu anghenion cymunedau lleol.
- Ychwanegu at a pheidio cystadlu gyda gwaith aelod sefydliadau.
Hoffech chi wybod mwy am ein gwaith? Cliciwch ar y dolenni islaw.
Bydd ein Hadroddiad Blynyddol 2008/09 yn dweud wrthych yr hyn a wnaethom y llynedd.
Mae ein Cynllun Gweithredu Strategol 2011/14 yn nodir hyn y bwriadwn ei wneud y flwyddyn nesaf.



