Sefydlu a rhedeg eich grŵp neu sefydliad  

 

Dyw hi ddim yn hawdd rhedeg gweithgaredd, grŵp neu sefydliad mawr. Er nad oes yr un unigolyn na grŵp bach o bobl yn gallu gwybod popeth, gallwn ni eich helpu i gael mynediad i ystod eang o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Os byddwch chi’n darllen rhywbeth sy’n anodd ei ddeall, gallwch godi’r ffôn a siarad â ni. Gallwn ni gael sgwrs amdano gyda chi, neu gallwn ymweld â’ch grŵp i gael sgwrs.  

 

Cysylltu

Y Tîm Cyngor Cymunedol

E: info@interlinkrct.org.uk

T: 01443 846200.

Dolenni a thaflenni gwybodaeth

 

Taflenni gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru 

 

Rydyn ni’n rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n darparu ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol drwy’r Hwb Gwybodaeth, a darperir ei adnoddau dan y pedwar piler canlynol:

  • gwirfoddoli
  • llywodraethiant da
  • cyllido cynaliadwy
  • ymgysylltu a dylanwadu 

Mesur effaith

 

Mae gwybod beth yw’r effaith mae eich sefydliad yn ei gael yn gwasanaethu’r bobl rydych chi’n eu gwasanaethu yn well. Mae’n cynnwys:

  • cynllunio pa wahaniaeth rydych chi eisiau i’ch rhaglen neu wasanaeth ei wneud
  • casglu’r wybodaeth gywir i wybod a ydych chi’n cyflawni eich nodau
  • asesu pa effaith rydych chi’n ei gael
  • dysgu gan y canlyniadau i wella eich gwaith

 

Dolenni defnyddiol ar gyfer mesur effaith

 

Hybwch eich hunan ar Cysylltu RCT

 

Sefydlwch eich hun ar Cysylltu RCT

 

‘Cysylltu RCT’ yw rhwydwaith gymdeithasol Rhondda Cynon Taf ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Gallwch:

  • hybu’r hyn rydych chi’n ei wneud
  • hysbysebu digwyddiadau a gweithgareddau
  • cysylltu ag eraill
  • cael mynediad i wybodaeth, cyngor a chanllawiau

 

Dolenni cysylltiedig

Grŵp a sefydliad

Arian a chodi arian

Ymgysylltu a dylanwadu

Recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr

Cyngor ar gyfer grwpiau

Mentora i gyfoedion ar gyfer rhannu sgiliau