Ymwneud â’r gymuned 

 

Mae llawer o weithgareddau hwyliog neu werth chweil yn digwydd yn RCT. Gallwch gysylltu â’ch cymuned fel cyfranogwr, neu ddechrau gweithgaredd drwy gyfrwng y dewisiadau isod. 

Mae Cysylltu RCT yn wefan gymunedol leol sy’n llawn o: 

  • ddigwyddiadau a gweithgareddau
  • cyfleusterau a gwasanaethau defnyddiol
  • cyfleoedd gwirfoddoli 

Mae hefyd yn lle ble gallwch gymryd rhan mewn achosion da lleol. Ceir heriau a pholau piniwn ble gallwch gyfrannu eich barn am yr hyn ddylai ddigwydd yn lleol hefyd. Yn ogsytal, gallwch ddangos i bobl eraill eich gwerth yn y gymuned drwy ennill bathodynnau.

Os ydych chi’n unigolyn neu’n cynrychioli grŵp, gallwch greu proffil ar Cysylltu RCT heddiw. 

Gallwch gael cefnogaeth i ymuno â grŵp cymunedol neu grŵp diddordebau gan un o’n cydlynwyr llesiant. Gall cymryd rhan a chysylltu â phobl yn eich cymuned fod yn ffynhonnell bwysig o lesiant, a lleihau teimladau o unigrwydd neu fod yn ynysig. Gweler ein tudalen cefnogaeth a llesiant i weld pob dewis sydd ar gael. 

Mae gwirfoddolwyr yn bresenoldeb gwerthfawr mewn llawer i gymuned. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mewn mannau fel clybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, ysgolion ac ysbytai. Dysgwch sut allwch chi wirfoddoli ar ein tudalen gwirfoddoli ac mae gan Cysylltu RCT gyfleoedd gwirfoddoli hefyd. 

Os oes gennych chi syniad am grŵp cymunedol, gall fod yn anffurfiol neu’n fach, ac aros felly neu dyfu ymhen amser. Beth bynnag yw eich cynllun, mae’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i ddechrau’r grŵp ar gael ar dudalen sefydlu a chynnal eich grŵp neu sefydliad. 

Dolenni cysylltiedig

 

Gwirfoddoli

Cefnogaeth llesiant

Sefydlu a rhedeg eich grŵp neu sefydliad

 

Mewn mannau eraill ar y we

 

Cysylltu RCT